Mae Dŵr Cymru yn eiddo Glas Cymru, cwmni un diben heb gyfranddalwyr a redir er lles ei gwsmeriaid yn unig. Nod model busnes Glas Cymru yw gostwng cost cyllido asedau Dŵr Cymru, sef prif gostau unrhyw gwmni dŵr, a gwella gwasanaethau wrth ddefnyddio’r partneriaid contract gorau ym mhob rhan o’r busnes.
O dan berchnogaeth Glas Cymru, cyllidir asedau a buddsoddiad cyfalaf Dŵr Cymru gan fondiau a gwargedion ariannol. Gwneir holl waith beunyddiol y cwmni gan bartneriaid contract arbenigol a gyflogir gan Dŵr Cymru yn dilyn proses gaffaelio gystadleuol.
Hyd yma defnyddiwyd arbedion ariannol i ddatblygu cronfeydd wrth gefn y cwmni er diogelu Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid rhag unrhyw gostau annisgwyl a gwella ansawdd ei gredyd er mwyn cadw’r costau cyllido mor isel â phosibl yn y dyfodol.