Nigel Annett Rheolwr Gyfarwyddwr
Penodwyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Ionawr 2005. Mae Mr Annett (50) wedi bod yn gyfarwyddwr gweithredol o Glas Cymru ers Ebrill 2000, ac o Dŵr Cymru ers Mai 2001. Roedd gynt yn gyfarwyddwr Dŵr Cymru rhwng 1992 a 2000 a chyn hynny wedi dal amryw swyddi gyda banciau buddsoddi megis Schroders, County Natwest a Wasserstein Perella.
Chris JonesCyfarwyddwr Cyllid
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyllid Glas Cymru yn Ebrill 2000 ac o Dŵr Cymru ym Mai 2001. Roedd Mr Jones (45) gynt yn Gyfarwyddwr Rheoleiddio Dŵr Cymru a South Wales Electricity Plc. Cyn ymuno â Dŵr Cymru yn 1995, roedd yn gyfarwyddwr National Economic Research Associates a chyn hynny gweithiodd yn y Trysorlys ym maes cyfleustodau a phreifateiddio. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Principality Building Society ac yn aelod o fwrdd y Sefydliad Materion Cymreig.
Peter Perry Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Penodwyd yn gyfarwyddwr gweithredu ym mis Gorffennaf 2006. Cefndir Mr Perry (47) yw peirianneg sifil ac roedd gynt yn brif swyddog gweithredu United Utilities Operational Services (UUOS), ar ôl cyfnod fel cyfarwyddwr gweithredu UUOS gyda chyfrifoldeb am y contract gweithredu rhwng Dŵr Cymru a diddordebau dŵr UUOS yn yr Alban ac Iwerddon. Cyn ymuno ag UUOS gweithiodd i Dŵr Cymru am dros 17 blynedd.