Mae Dŵr Cymru’n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy’n hollbwysig i les hirdymor y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu a’r amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo. Er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn, dibynnwn ar rwydwaith enfawr o asedau ac mae i’r rhan fwyaf ohonynt oes faith iawn. Felly, bydd llawer o’r penderfyniadau a wnawn heddiw yn effeithio ar ein cwsmeriaid, yr economi a’r amgylchedd am flynyddoedd maith i ddod.
Gallwn ddechrau gwneud penderfyniadau yn awr yng nghyd-destun gweledigaeth hirdymor iawn ar gyfer y dyfodol ac rydym wedi cyflwyno’n bwriadau yn ein dogfen 'Dŵr Cymru: Ein Dyfodol Cynaliadwy'.
Yn y ddogfen hon, nodwn ein prif amcanion a’r cyfeiriad y bwriadwn fynd iddo dros y 25 mlynedd nesaf. Ein bwriad yw sicrhau bod pob cwsmer yn cael gwasanaeth diogel a dibynadwy sy’n cyflawni eu holl anghenion, am bris sy’n fforddiadwy ac yn is na’r pris a godir gan gwmnïau dŵr cyfatebol yn y DU.
Rydym yn cydnabod bod rhai pethau’n ansicr wrth gynllunio mor bell ymlaen ac felly bwriadwn ddiweddaru’r datganiad hwn o dro i dro. Hoffem glywed eich barn chi ar y fersiwn gyntaf o 'Ein Dyfodol Cynaliadw', y i’n helpu i sicrhau ein bod yn cyflenwi ein gwasanaethau er lles pawb.