Byddwn yn casglu dŵr gwastraff drwy ein rhwydwaith carthffosydd 17,600 cilomedr. Mae pibellau carthffosydd yn llawer mwy na phibellau dŵr am eu bod yn cludo dŵr gwastraff a dŵr glaw oddi ar dir a ffyrdd – sef carthffosydd cyfunol. Mae rhan helaeth o’r rhwydwaith yn hen, 60 blynedd ar gyfartaledd, gyda rhannau’n dyddio o oes Fictoria.
Mewn rhai llefydd nid yw’r rhwydwaith yn gallu ymdopi â’r galw cynyddol arno ac weithiau, yn enwedig ar ôl glaw trwm, mae’r carthffosydd yn gallu gorlifo i mewn i adeiladau. Byddwn yn asesu’r risg o hynny ac mae gostwng llifogydd carthion yn flaenoriaeth i’r cwmni. Rhwng 2000 a 2005 taclwyd problemau llifogydd 886 adeilad a bwriadwn fuddsoddi ar yr un lefel uchel fel rhan o raglen 2005 - 2010.
Taclo llifogydd
Rydym yn ymwybodol o’r trawma mae llifogydd carthion yn gallu achosi. Mae cwsmeriaid sy’n dioddef llifogydd o’r fath yn gallu hawlio iawndal.
Menter i hyrwyddo draenio naturiol i gynorthwyo’r rhwydwaith carthffosiaeth i ymdopi’n well gyda newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd mewn trefoli er mwyn gostwng digwyddiadau o lifogydd carthffosydd. Clic yma i weld mwy...
Clic yma i lawrlwytho ein Strategaeth Rheoli Dwr Wyneb..
Braster olew a saim mewn carthffosydd
Mae’r ddogfen canlynol yn cynnwys arferion rheoli arlwyo da ar gyfer sefydliadau arlwyo. Mae’n cynghori sefydliadau bwyd o’r angen i gadw braster olew a saim allan o ddraeniau a charthffosydd. Wrth eu gwaredu mewn sinciau neu ddraeniau cegin byddant yn creu tagfeydd ac os yn cyrraedd pibellau dwr glaw a gyliau yn llygru nentydd ac afonydd.