RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Adnoddau dwr

Adnoddau dŵr

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
Adnoddau dwr

Ar y cyfan, mae sefyllfa adnoddau dŵr yn ardal gyflenwi Dŵr Cymru’n eithaf cryf. Rydym yn echdynnu tua 2% o lawiad blynyddol yr ardal i’w gyflenwi i’r cyhoedd. Daw 96% o hwn o afonydd ac fe’i cefnogir trwy ryddhau dŵr o’n cronfeydd cronni. Caiff y dŵr ei echdynnu o dan drwyddedau a roddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac rydym yn darparu ar gyfer cynnal llif yr afonydd mewn cyfnodau o sychder. Daw gweddill y dŵr a gyflenwir gennym o ffynonellau dŵr daear.

Yn ardal gyflenwi Dŵr Cymru, ceir trefi poblog yn y de, yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd ac ardaloedd gwledig â phoblogaethau gwasgaredig dros lawer o weddill yr ardal.  Felly, mae dros 65% o’r dŵr a gyflenwir yng Nghymru yn mynd i ardaloedd poblog y de. Mae Dŵr Cymru’n llwyddo i reoli system o dynnu dŵr o afonydd a chronfeydd cronni i gwrdd â’r galw hwn, gan symud dŵr i’r ardaloedd lle mae angen amdano.

Yn y rhan hon:

Sefyllfa gyfredol y dŵr

Cynllun adnoddau dŵr

Cynllun sychder

Defnyddio dŵr yn effeithlon

 

corner

Gwybodaeth bellach