RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Ansawdd dwr yfed

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Ansawdd dŵr yfed

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058
Ansawdd dwr yfed

Er mwyn cynhyrchu a dosbarthu dŵr yfed o’r safon uchaf, cofrestrwyd ein system dŵr yfed gyda Sefydliad Safonau Prydain (BSI) o dan amodau ISO 9002. Mae’r cofrestriad yn cynnwys casglu, echdynnu, trosglwyddo, trin, storio, dosbarthu a samplo dŵr yfed. Pan fydd cwmni’n methu cyfarfod â’r safonau cymwys, gall y DWI (Drinking Water Inspectorate) gymryd camau i orfodi’r cwmni i wneud gwaith i adfer y sefyllfa.

Oedran cyfartalog rhywdwaith pibellau Dŵr Cymru yw oddeutu 50 mlynedd, er bod rhai mor hen â 100 mlynedd. Gall cyflwr y rhwydwaith effeithio ansawdd dŵr wrth y tap, yn enwedig ei liw, ynghyd â lefelau gollyngiadau, pwysedd a nifer y rhwygiadau.

Rydym yn cynnal cofrestr o safonau ansawdd ein cyflenwad dŵr. Gallwch archwilio cofrestr de Cymru yn swyddfa Nelson, Heol Pentwyn, Nelson a chofrestr y gogledd yn swyddfa Dinas, Llanwnda ger Caernarfon.

Partneriaeth Dŵr ac Iechyd Cymru

Mae’r cynllun hwn yn dwyn ynghyd asiantaethau perthnasol er mwyn cytuno sut i gydweithio’n fwy effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Ymhlith yr asiantaethau mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI), Llywodraeth Cynulliad Cymru, adrannau iechyd y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol, Cyngor Defnyddwyr Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

Clic yma i gael manylion y gwahanol asiantaethau sy’n rhan o’r bartneriaeth.

Oherwydd problemau technegol, nid yw’r adnoddau chwilio Ansawdd Dŵr ar gael dros dro. Os am holi am eich ardal, galwch ein llinell gymorth 24 awr 0800 052 0130.

 

corner

Gwybodaeth bellach

Ansawdd dŵr yfed

Ansawdd dŵr yfed

Clic ama am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 147kb


Edrych ar ôl dŵr yneich cartref

Edrych ar ôl dŵr yneich cartref

Clic yma am ffeil PDF Acrobat..

File size: 1.2mb