RYDYCH YMA > Hafan > Gyrfaoedd > Nodweddion y cwmni?

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Nodweddion y cwmni?

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058

Nid oes llawer o gwmnïau cyfleustodau’n gallu dadlau eu bod yn unigryw. Ond mae Dŵr Cymru yn gallu honni hynny oherwydd nid oes cyfranddalwyr gan y busnes sy’n gallu dylanwadu ar ein dulliau gweithredu. Mae’r cwmni yn eiddo Glas Cymru – sef cwmni nid-er-elw. Mae hynny’n golygu gallwn ail-fuddsoddi unrhyw elw yn y busnes er lles ein cwsmeriaid a gweithwyr.

O ganlyniad mae’r cwmni wedi datblygu strwythur unigryw. Arolygir y busnes gan aelod - heb unrhyw ddiddordeb ariannol yn y busnes.

Ar ben hynny, o ran maint Dŵr Cymru yw chweched cwmni dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr - sy’n gwasanaethu dros 1.3 miliwn cwsmer yng Nghymru a rhai rhannau cyfagos yn Lloegr, ac yn cyflogi dros 3,000 gweithiwr (drwy ein partneriaid).

Seiliwyd y cwmni ar egwyddorion megis hygrededd, parch a gonestrwydd. Hynny yw, cwmni bydd ein gweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

corner

Gwybodaeth bellach