Click here for English version

DIM CROESO

DIM CROESO

I’R DWSIN DRWG

I’R DWSIN DRWG

Mae defnyddio’ch toiled fel bin nid yn unig yn ddrwg i’r amgylchedd – ond fe all draeniau wedi blocio achosi llifogydd annymunol iawn i eiddo a chostio’n ddrud iawn ichi ddatrys y llanastr.

The Sheriff

Dyna pam ein bod ni eisiau i bawb wybod am y problemau a achosir pan fo’r ‘Dwsin Drwg’ yn cael eu fflysio i lawr y toiled a thagu’n pibellau carthffosiaeth.

Fel rhan o’n hymgyrch ‘Dwsin Drwg’, ‘rydym wedi cynhyrchu eitemau hyrwyddol mae modd eu lawrlwytho, yr ydym yn annog sefydliadau mawr, cynghorau ac ysgolion uwchradd i’w mabwysiadu er mwyn annog pobl i feddwl cyn fflysio eitemau, heblaw papur toiled a gwastraff dynol, i lawr y toiled.

The ‘Dirty Dozen’ poster

Fe ellir printio’r poster ‘Dwsin Drwg’ ac fe ellir ei laminadu a’i roi mewn mannau cyffredin mewn toiledau cyhoeddus, efallai ger y basnau ymolchi neu ar gefn y drws fel ‘rydych yn mynd i mewn i’r toiled cyhoeddus. Cliciwch yma

The ‘Dirty Dozen’ leaflet

Mae’r daflen ‘Y Dwsin Drwg’ yn cynnig cyngor ynglŷn â sut i gael gwared â’r ‘Dwsin Drwg’ yn gyfrifol heb achosi problemau diangen i bwy bynnag sy’n rheoli’r adeiladau a’r tir perthynol, neu i ni fel y cwmni dŵr a charthffosiaeth. Cliciwch yma

The ‘Dirty Dozen’ circle

Fe ellir hefyd brintio’r cylch ‘Dwsin Drwg’, a’i laminadu a’i lynu ar gefn y drysau toiled unigol. Cliciwch yma

The Posse

Y Posse

Fe wnaeth staff Dŵr Cymru, a sêr sioe barodi gorllewin gwyllt y cwmni, afael yn eu hetiau cowboi a marchogaeth yn gynt na’r gwynt i’r Eisteddfod i lansio’r ymgyrch ‘y Dwsin Drwg’, gan ddisgwyl ymateb i’w stondin na welwyd tebyg iddo ers y rhuthr am aur.



The Deputies

Y Dirprwyon

Disgyblion o Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin


Disgyblion o Ysgol Pen y Garth



I’r Dwsin Drwg – Y Ffilm

I’r Dwsin Drwg – Y Ffilm

‘Rydym yn hyrwyddo ymgyrch ‘Y Dwsin Drwg’ gyda ffilm gowbois barodi, sy’n cynnwys disgyblion Ysgol Gyfun Garth Olwg, Gartholwg, ger Pontypridd. Ei seren yw Jay Worley, sy’n actio rhan siryf garw sy’n benderfynol o roi diwedd ar y Dwsin Drwg – gyda chymorth pump o gyd-ddisgyblion.

Y Syrthiedig

The Fallen

Lluniau o’r hyn all ddigwydd o ganlyniad i fflysio’r ‘Dwsin Drwg’ i lawr y toiled.


Newyddion

Newyddion

Dŵr Cymru’n ymosod ar y ‘Dwsin Drwg’

Ffilm gowbois ddigri’n help i daclo problem carthffosydd…

Clic yma